Ciw-restr

Pobun

Llinellau gan Cymydog Tlawd (Cyfanswm: 14)

 
(0, 2) 68 Dyma dŷ'r gŵr goludog, Pobun.
(0, 2) 69 O, f'arglwydd, yr wyf yn crefu arnat, dyro i mi gymorth o'th dosturi, a bydd drugarog at dlawd.
 
(0, 2) 73 O, fy meistr, Pobun, tosturia wrthyf.
 
(0, 2) 78 O, fy meistr Pobun, atat ti yr wyf yn dal fy llaw.
(0, 2) 79 Gwelais innau well dyddiau gynt.
(0, 2) 80 Unwaith bûm gymydog i ti, dŷ wrth dŷ, ond bu raid i mi ymadael.
 
(0, 2) 84 Rhodd fach yw honyna.
 
(0, 2) 89 Honyna, pe cawn fy rhan fel brawd o gymydog o honyna, byddwn eto'n iach a dedwydd.
 
(0, 2) 91 Am hynny yr wyf yn penlino o'th flaen.
(0, 2) 92 Rhan y pwrs yna â mi, dim ond hynny.
 
(0, 2) 98 Yr wyt ti'n gyfoethog dros fesur.
(0, 2) 99 Pe rhennit y god yn gyfartal â mi, byddai cistiau ddigon gennyt wedyn, a'r rhenti a'r llogau yn llifo i mewn iddynt.
 
(0, 2) 109 Os yw'r arian hyn i fynd am yr ardd, nid rhaid i ti ond amneidio—yn lle un pwrs y mae deg ar dy helw.
(0, 2) 110 Galw am un araÌl rhag blaen, a rhan â mi, os wyt ti'n Gristion.